Cwblhewch y ddeiseb hon i gefnogi ymgyrch Siân Gwenllian AS am Ysgol Ddeintyddol ym Mangor // Sign this petition to support Siân Gwenllian MS's campaign for a Dental School in Bangor.
Scroll down for English
Mae cael mynediad at ofal deintyddol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dasg bron yn amhosib ar gyfer plant ac unigolion yn etholaeth Arfon. Mae’r adroddiad ‘Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor’ sydd wedi’i gomisiynu gan Siân Gwenllian AS yn cynnwys tystiolaeth ystadegol, anedoctaidd ac arbenigol sy’n rhoi darlun o ddifrifoldeb y sefyllfa yn Arfon a Chymru.
Mae’r sawl sydd wedi arwyddo’r ddeiseb hon yn cytuno y dylid sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor er mwyn:
- Gwella gwasanaethau lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddol yn Arfon ac ar draws Cymru.
- Atgyfnerthu statws Bangor fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddi iechyd.
- Cryfhau economi Bangor drwy greu mwy o swyddi newydd o ansawdd.
Ymhellach, maent yn cytuno gyda chanfyddiadau’r adroddiad a enwir uchod ac yn credu bod yr adroddiad yn cyflwyno dadl gynhwysfawr a manwl dros sefydlu’r ysgol.
_________________________________________________________
Accessing dental care under the NHS is an almost impossible task for children and individuals in the Arfon constituency. The report 'Filling the Gaps: The case for training dentists in Bangor' which has been commissioned by Siân Gwenllian MS contains statistical, anecdotal and expert evidence which reflects the seriousness of the situation in Arfon and Wales.
The signatory of this petition agrees that a Dental School should be established in Bangor in order to:
- Improve local services and tackle the dental crisis in Arfon and across Wales.
- Reinforce Bangor's status as a centre of excellence in health training.
- Strengthen Bangor's economy by creating more new quality jobs.
Furthermore, they agree with the findings of the report named above and believe that the report presents a comprehensive and detailed argument for the establishment of the school.